DYCHWELYD

Dychweliadau, Ad-daliadau a’n Gwarant Boddhad

Rydyn ni yn portmeirionONLINE yn dymuno i bob un o’n cwsmeriaid fod yn gwbl hapus efo’r hyn a brynwch gennym; dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno ein Gwarant Boddhad.

Os nad ydych chi’n gwbl fodlon gydag unrhyw beth a brynoch o portmeirionONLINE, gallwch ei ddychwelyd am ad-daliad llawn, os bodlonir yr amodau canlynol.

Dychweliadau ac Ad-daliadau

Os dymunwch ddychwelyd eitem, mae angen i chi dychwelyd cyn gynted â phosibl, yn ei gyflwr gwreiddiol gyda phrawf o brynu a byddwn yn ei gyfnewid neu ei ad-dalu. Oni bai bod yr eitem yn diffygiol, dylai fod yn ei gyflwr gwreiddiol a dylai'r dychweliad fod o fewn 28 diwrnod i dderbyn eich archeb.

Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw pacio’r eitem yn saff, gan gynnwys unrhyw waith papur a dderbynioch gennym; ysgrifennu’r cyfeiriad yn glir ar du allan y pecyn; mynd â’r parsel i unrhyw Swyddfa Bost a’i anfon yn ôl atom i’r cyfeiriad canlynol:

portmeirionONLINE
Siopau Portmeirion Cyf
Swyddfa’r Siopau
Portmeirion
Gwynedd
LL48 6ET
(Y Deyrnas Unedig)

Sylwer nad yw’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu am ddim.

Iawndal ac Eitemau Diffygiol

Os yw eich eitem wedi'i difrodi, anfonwch e-bost atom o fewn 7 diwrnod ar ôl ei danfon i info@portmeiriononline.co.uk gyda'r rhif archeb yn y llinell bwnc. Cofiwch gynnwys delweddau o'r blwch allanol (Sticer Bregus os yn berthnasol) a delweddau o'r eitem sydd wedi'i difrodi.

Os yw eich eitem yn ddiffygiol, anfonwch e-bost atom yn info@portmeiriononline.co.uk gyda rhif yr archeb yn y llinell destun gydag esboniad byr o'r diffyg.

Polisi Ad-dalu

Cewch ddychwelyd unrhyw eitem (gyda rhai eithriadau a restrir isod) gyn belled â’u bod heb eu defnyddio ac mewn cyflwr addas i’w gwerthu, o fewn 28 diwrnod i’w derbyn, i gael ad-daliad llawn.

Nodyn Pwysig

Os byddwch angen dychwelyd eitem, mae’n rhaid i chi gynnwys y gwaith papur a ddarparwyd gyda’r eitem honno a dychwelyd y pecyn i’r cyfeiriad a nodir uchod ac yn eich dogfennau (negeseuon ebost cadarnhad, nodiadau danfon ac ati). Gallai methu dychwelyd nwyddau i’r cyfeiriad cywir ohirio’r broses o roi ad-daliad i chi.

Os nad yw’r cynnyrch a ddychwelir yn hollol addas i’w ailwerthu neu fod difrod i’r pecyn, rydym yn cadw’r hawl i wrthod rhoi ad-daliad am yr eitem. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.

Sylwer na fedrwn ad-dalu cost unrhyw wasanaeth lapio anrheg y gwnaethoch ei archebu.

Nwyddau nad allwn roi ad-daliad arnynt

  • Tocynnau rhodd

Am resymau glendid, ni chaniateir dychwelyd yr eitemau canlynol oni bai eu bod wedi difrodi neu’n ddiffygiol:

  • Tlysau ar gyfer tyllau ar y corff
  • Cwiltiau, tyweli, carthenni a gobennydd (oni bai bod y pecyn gwreiddiol heb ei ddifrodi a heb ei agor)
  • Bwydydd a chynhyrchion rhodd sy’n cynnwys alcohol

Ar ben hynny, ni chaniateir dychwelyd yr eitemau canlynol oni bai eu bod yn ddiffygiol:

  • Cryno ddisgiau a DVDs
  • Eitemau personoledig / wedi’u gwneud yn arbennig / wedi’u haltro
  • Gwelyau, matresi a dodrefn

Nid yw’r darpariaethau hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol ynghylch nwyddau diffygiol neu nwyddau a gam-ddisgrifiwyd nac ar eich hawl i ganslo archebion yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell).

Gwybodaeth bwysig am ddanfon nwyddau

Caiff pob parsel a anfonir o fewn y DU ei anfon gyda gwasanaeth post wedi’i dracio, a’ch cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod rhywun ar gael i dderbyn y parsel pan gaiff ei ddanfon. Os na chaiff yr eitem ei danfon gan nad ydych chi gartref neu os nad ydych yn ei gasglu o swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol os cewch gyfarwyddyd i wneud hynny, a bod y parsel wedyn yn cael ei ddychwelyd atom ni, chi fydd yn gyfrifol am gost ail bostio’r eitem atoch.