LLEOLIAD

Portmeirion yw un o atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru ac mae’n croesawu dros 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Dyma’r lle delfrydol ar gyfer diwrnod allan efo'r teulu, gyda pharcio am ddim, teithiau tywys am ddim, sioe glyweled, caffis a bwytai, hanner dwsin o siopau, gerddi a thraethau i’w mwynhau.

O amgylch y pentref mae 70 erw o goedwig ecsotig efo llwybrau coedwigol ac arfordirol hawdd i'w dilyn.

Mae Portmeirion ar agor bob diwrnod o’r flwyddyn o 9.30yb tan 7.30yh, heblaw am Ddydd Nadolig.

Mae siopau’r Pentref ar agor o 9.30yb tan 5.30yh bob dydd, heblaw am Ddydd Nadolig, Gwyl San Steffan a Dydd Calan.

Mae gennym bum siop ym mhentref Portmeirion, yn ogystal â dwy siop ym Mhorthmadog, ac un yng Nghaerdydd.

Prif Swyddfa

portmeirionONLINE
Siopau Portmeirion Cyf
Swyddfa’r Siopau
Portmeirion
Gwynedd
LL48 6ER
(Y Deyrnas Unedig)