TELERAU AC AMODAU

1. Diffiniadau

  1. Ystyr "Prynwr" yw’r unigolyn neu’r sefydliad sydd yn prynu neu’n cytuno i brynu Nwyddau gan y Gwerthwr;
  2. Ystyr “Defnyddiwr” fydd yr ystyr a roddir iddo yn adran 12 o Ddeddf Telerau Cytundeb Annheg 1977;
  3. Ystyr “Cytundeb” yw’r cytundeb rhwng y Gwerthwr a’r Prynwr am werthiant a phryniant Nwyddau yn cynnwys y Telerau ac Amodau hyn;
  4. Ystyr “Nwyddau” yw’r eitemau y mae’r Prynwr yn cytuno i’w prynu gan y Gwerthwr;
  5. Ystyr “Gwerthwr” yw Siopau Portmeirion Cyf o Bortmeirion, Gwynedd, LL48 6ET;
  6. Ystyr “Telerau ac Amodau” yw’r telerau ac amodau gwerthu a nodir yn y ddogfen hon ac unrhyw delerau ac amodau arbennig a gytunir yn ysgrifenedig gan y Gwerthwr.

2. Amodau

  1. Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn yn effeithio ar hawliau statudol y Prynwr fel defnyddiwr.
  2. Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol i bob cytundeb i werthu Nwyddau gan y Gwerthwr i’r Prynwr a byddant yn trechu unrhyw ddogfennaeth neu ohebiaeth arall gan y Prynwr.
  3. Bydd derbyn y Nwyddau yn cael ei gyfrif yn dystiolaeth bendant fod y Prynwr wedi derbyn y Telerau ac Amodau hyn.
  4. Bydd unrhyw wyriad oddi wrth y Telerau ac Amodau hyn (yn cynnwys unrhyw delerau ac amodau arbennig a gytunir rhwng y partïon) yn amherthnasol oni bai ei fod wedi’i gytuno yn ysgrifenedig gan y Gwerthwr.

3. Archebu

  1. Bydd holl archebion am Nwyddau yn cael eu cyfrif yn gynnig gan y Prynwr i brynu Nwyddau yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn ac maent yn amodol ar gael eu derbyn gan y Gwerthwr. Gall y Gwerthwr benderfynu peidio â derbyn archeb am unrhyw reswm, hyd yn oed os yw taliad y Prynwr wedi cael ei brosesu gan Ddarparwyr Gwasanaeth Taliad y Gwerthwr.
  2. Pan na fydd y Nwyddau a archebwyd gan y Prynwr ar gael o’r stoc am 30 diwrnod, caiff y Prynwr wybod a chaiff yr opsiwn i un ai aros nes bydd y Nwyddau ar gael o’r stoc neu ganslo’r archeb a chael ad-daliad llawn.
  3. Wrth wneud archeb drwy’r Wefan, caiff y camau technegol sydd angen i’r Prynwr eu cymryd i gwblhau’r broses archebu eu disgrifio i chi wrth i chi symud ymlaen drwy’r broses archebu.

4. Pris a Thaliad

  1. Pris y Nwyddau fydd y pris a nodir ar Wefan y Gwerthwr. Mae’r Pris yn cynnwys TAW.
  2. Bydd y pris prynu cyfan, yn cynnwys TAW a chostau danfon, yn cael eu dangos ym masged siopa’r Prynwr cyn cadarnhau’r archeb.
  3. Wedi i’r archeb gael ei derbyn bydd y Gwerthwr yn cadarnhau manylion, disgrifiad a phris y Nwyddau drwy Ebost. Os yw’r rhain yn wahanol i’r manylion, disgrifiad a/neu’r pris a ddangosir ar y Wefan, bydd hawl gan y Prynwr i ganslo’r archeb.
  4. Mae’n rhaid talu’r Pris a TAW a chostau danfon yn llawn cyn y caiff y Nwyddau eu hanfon.
  5. Mewn achos o werthiannau eraill, bydd taliad am y Pris a TAW a chostau danfon yn daladwy o fewn 14 diwrnod o ddyddiad derbyn yr anfoneb a gyflwynir gan y Gwerthwr.

5. Hawliau’r Gwerthwr

  1. Mae’r Gwerthwr yn cadw’r hawl i addasu pris a manyleb unrhyw eitem ar y Wefan fel y dymuna.
  2. Mae’r Gwerthwr yn cadw’r hawl i dynnu unrhyw Nwyddau o’r Wefan ar unrhyw adeg.
  3. Ni fydd y Gwerthwr yn atebol i unrhyw un am dynnu unrhyw Nwyddau o’r Wefan neu am wrthod prosesu archeb.

6. Oedran Caniatâd

  1. Os yw’r Gwerthwr yn darganfod nad yw’r Prynwr yn gymwys yn gyfreithiol i archebu nwyddau penodol, bydd hawl gan y Gwerthwr i ganslo’r archeb yn syth, yn ddirybudd.

7. Warantî

  1. Mae’r Gwerthwr yn gwarantu y bydd y Nwyddau, ar yr adeg y cânt eu hanfon, yn cyfateb â’r disgrifiad a roddodd y Gwerthwr. Ac eithrio pan fo'r Prynwr yn delio fel Defnyddiwr, mae'r holl warantau, amodau, neu delerau eraill sy'n ymwneud â ffitrwydd at ddiben, marchnadwyedd neu gyflwr y Nwyddau, boed hynny'n ymhlyg gan Statud, cyfraith gyffredin neu fel arall wedi'u heithrio, ac mae'r Prynwr yn fodlon ar addasrwydd y Nwyddau at ddiben y Prynwr.

8. Danfon

  1. Caiff nwyddau sy’n cael eu cyflenwi o fewn y DU eu hanfon o fewn un diwrnod gwaith o dderbyn archeb fel arfer, gyda’r nod o ddanfon eich archeb i chi o fewn 3 diwrnod gwaith.
  2. Caiff nwyddau sy’n cael eu cyflenwi oddi allan i’r DU eu hanfon o fewn un diwrnod gwaith o dderbyn archeb fel arfer, gyda’r nod o ddanfon eich archeb atoch o fewn 7–10 diwrnod.
  3. Pan fo dyddiad danfon penodol wedi’i gytuno, a phan nad oes modd danfon erbyn y dyddiad hwn, hysbysir y Prynwr a rhoddir cyfle iddo gytuno dyddiad danfon newydd neu dderbyn ad-daliad llawn.
  4. Bydd y Gwerthwr yn gwneud ymdrechion rhesymol i gwrdd ag unrhyw ddyddiad a gytunwyd arno ar gyfer danfon. Beth bynnag, nid amser y danfoniad fydd hanfod y mater ac ni fydd y Gwerthwr yn atebol am unrhyw golledion, costau, iawndal na threuliau a achosir i’r Prynwr neu unrhyw drydydd parti o ganlyniad uniongyrchol neu anuniongyrchol i unrhyw fethiant i gwrdd ag unrhyw ddyddiad danfon a amcangyfrifwyd.
  5. Bydd y Nwyddau yn cael eu danfon i’r cyfeiriad a nodwyd ar gyfer y Prynwr yn yr archeb, a bydd y Prynwr yn gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol i dderbyn y Nwyddau pa bryd bynnag y cânt eu cyflwyno ar gyfer eu danfon.
  6. Caiff pob parsel ar gyfer y DU ei anfon gyda’r gwasanaeth Royal Mail Tracked 48 Hour. Pe bai’r Nwyddau yn parhau i fod heb eu danfon gan nad yw’r Prynwr gartref i dderbyn y Nwyddau, neu os nad yw’r Prynwr yn casglu’r Nwyddau o’u swyddfa ddidoli Post Brenhinol leol os caiff gyfarwydd wneud hynny gan y Post Brenhinol; a bod y Nwyddau wedyn yn cael eu dychwelyd i’r Gwerthwr, bydd y Prynwr yn gyfrifol am y gost i’r Gwerthwr o ail bostio’r eitem i’r Prynwr.
  7. Mae’r Prynwr yn derbyn mai canllaw yn unig yw’r amserlenni danfon a roddir, a’u bod yn ddibynnol ar lefelau stoc yn ogystal â materion logisteg ein cludwyr dewisedig. Os nad yw’r eitem a archebodd y Prynwr mewn stoc, rydym yn cadw’r hawl i ddanfon yr eitem i’r Prynwr o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad y gwnaethpwyd yr archeb, ac ni fyddwn yn gyfrifol os nad yw’r eitem yn cyrraedd o fewn ar amserlenni danfon a restrir uchod.
  8. Bydd teitl a risg y Nwyddau yn pasio i’r Prynwr pan gaiff y Nwyddau eu danfon.
  9. Gan fod cyfyngiadau pwysau wedi’u gosod gan y Post Brenhinol ar gyfer postio Rhyngwladol safonol, gall archebion sy’n pwyso dros 2kg gario costau postio ychwanegol.

9. Canslo a Dychwelyd

  1. Bydd y Prynwr yn archwilio’r Nwyddau yn syth ar ôl eu derbyn a bydd yn hysbysu’r Gwerthwr o fewn 10 diwrnod i’w derbyn os yw’r Nwyddau wedi difrodi neu nad ydynt yn cydymffurfio ag unrhyw ran o’r Cytundeb. Os nad yw’r Prynwr yn gwneud hynny, bernir bod y Prynwr wedi derbyn y Nwyddau.
  2. Lle gwneir hawliad o nam neu ddifrod bydd y Nwyddau’n cael eu dychwelyd gan y Prynwr i’r Gwerthwr. Bydd hawl gan y Prynwr i gael ad-daliad llawn (yn cynnwys costau danfon) ac unrhyw gostau dychwelyd drwy’r post os bydd y Nwyddau yn ddiffygiol mewn gwirionedd.
  3. Os ydych chi’n Ddefnyddiwr, mae’r hawl gennych, yn ogystal â’ch hawliau eraill, i ganslo’r Cytundeb a derbyn ad-daliad drwy ein hysbysu yn ysgrifenedig neu mewn Ebost o fewn 7 diwrnod gwaith llawn o dderbyn y Nwyddau. Mae’n rhaid i chi dalu cost dychwelyd y Nwyddau a dylid eu hyswirio’n ddigonol yn ystod y siwrne yn ôl. Byddwch yn derbyn ad-daliad o’r holl arian a dalwyd am y Nwyddau (yn cynnwys costau danfon), heblaw am gostau postio yn ôl ac unrhyw wasanaeth lapio anrhegion y gwnaethoch ei archebu, o fewn 30 diwrnod o ganslo.
  4. Mae’n rhaid i Nwyddau i’w dychwelyd ddangos y rhif archeb a gafwyd gan y Gwerthwr yn glir ar y pecyn.
  5. Os bydd Nwyddau a ddychwelwyd wedi’i ddifrodi o ganlyniad i fai’r Prynwr, bydd y Prynwr yn atebol am y gost o ddatrys unrhyw ddifrod.

10. Tocynnau Rhodd

Bydd defnyddio tocynnau rhodd yn disgyn o fewn y telerau ac amodau canlynol:

  1. Caiff dyddiad ei nodi ar bob Tocyn Rhodd ac maent yn dod i ddiwedd eu hoes 12 mis ar ôl y dyddiad cyhoeddi.
  2. Nid oes modd rhoi ad-daliad am Docynnau Rhodd na’u cyfnewid am arian parod na thocynnau rhodd o feintiau eraill.
  3. Bydd unrhyw gost sy’n ychwanegol i werth y Tocyn Rhodd hwn yn cael ei dalu gan y sawl sy’n ei wario.
  4. Ni fyddwn yn gyfrifol am ailgyflwyno Tocynnau Rhodd os byddant yn cael eu colli, eu difrodi neu eu dwyn.
  5. Rhaid adbrynu talebau erbyn y dyddiad dod i ben ac ni fyddant yn cael eu hymestyn.
  6. Gellir adbrynu Talebau Anrheg Ariannol ar-lein ond rhaid eu dychwelyd i’r cyfeiriad canlynol i’w hadbrynu:
    PortmeirionONLINE
    Siopau Portmeirion Cyf
    Swyddfa Siopau
    Portmeirion
    Gwynedd
    LL48 6ET.

  7. Gellir gwario mwy nag un Tocyn Rhodd yn yr un pryniant hyd at werth y nwyddau sy’n cael eu prynu.
  8. Gellir defnyddio Tocynnau Rhodd £100, £50, £25, £20, £10, £5 yng Ngwesty Portmeirion a’r Sba, Castell Deudraeth a Siopau Portmeirion. Rhoddir newid am y Tocynnau Rhodd hyn hyd at 10% o werth y tocyn.
  9. Pe bai unrhyw achos o anghydfod, mae penderfyniad Portmeirion Cyf a Siopau Portmeirion Cyf yn derfynol.
  10. Mae Portmeirion Cyf a Siopau Portmeirion Cyf yn cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn yn ddirybudd.

11. Cyfyngu Atebolrwydd

  1. Ac eithrio fel y gellir ei awgrymu yn ôl y gyfraith lle mae'r Prynwr yn delio fel Defnyddiwr, mewn unrhyw achos o dorri'r Telerau ac Amodau hyn gan y Gwerthwr, bydd camau’r Prynwr hyn i gywiro hyn yn gyfyngedig i iawndal na fydd o dan unrhyw amgylchiadau yn fwy na Phris y Nwyddau ac ni fydd y Gwerthwr dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol, achlysurol neu ganlyniadol o gwbl.
  2. Nid oes unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn a fydd yn eithrio nac yn cyfyngu ar atebolrwydd y Gwerthwr am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod y Gwerthwr neu esgeulustod asiantau neu gyflogeion y Gwerthwr.

12. Hawl Ildiad

  1. Ni fydd unrhyw hawl ildiad gan y Gwerthwr (boed hynny’n eglur neu’n ymhlyg) o ran gorfodi unrhyw rai o’i hawliau fel rhan o’r cytundeb hwn yn niweidio ei hawliau i wneud hynny yn y dyfodol.

13. Force Majeure

  1. Ni fydd y Gwerthwr yn atebol am unrhyw ohiriad neu fethiant i gyflawni unrhyw un o’i rwymedigaethau os bydd y gohiriad neu’r methiant yn digwydd o ganlyniad i ddigwyddiadau neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i’w reolaeth resymol, yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i weithred Duw, streiciau, cloi drysau, damweiniau, rhyfel, tân, peiriannau yn torri neu brinder deunyddiau crai o ffynhonnell naturiol, a bydd yr hawl gan y Gwerthwr i gael estyniad rhesymol i’w rwymedigaethau.

14. Holltiad

  1. Os caiff unrhyw delerau neu ddarpariaeth yn y Telerau ac Amodau hyn eu dal yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy am unrhyw reswm gan unrhyw lys ag awdurdodaeth gymwys, bydd y ddarpariaeth honno wedi’i hollti a bydd grym ac effaith lawn gweddill y darpariaethau yn parhau yn yr un modd a phe bai’r Telerau ac Amodau hyn wedi’u cytuno gyda’r ddarpariaeth annilys, anghyfreithlon neu anorfodadwy wedi’i dileu.

15. Newidiadau i’r Telerau ac Amodau

  1. Mae’r hawl gan y Gwerthwr i wneud newidiadau i’r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg.

16. Y Gyfraith Lywodraethol ac Awdurdodaeth

  1. Llywodraethir y Telerau ac Amodau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr, ac maent yn cael eu dehongli yn unol â’r gyfraith hon, ac mae’r partïon yn ymostwng i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.