PREIFATRWYDD

Pa wybodaeth rydyn ni’n ei gasglu?

Casglwn ddata gennych pan fyddwch yn cofrestru ar ein safle neu yn gwneud archeb gyda ni (boed hynny fel gwestai neu o gyfrif wedi’i greu yn bersonol).

Fodd bynnag, cewch ymweld â’n gwefan yn ddienw ar unrhyw adeg.

Beth rydyn ni’n ei wneud efo’ch gwybodaeth?

Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol:

  • i bersonoli eich profiad siopa trwy allu ymateb i’ch gofynion unigol
  • i wella ein gwasanaeth i chi trwy werthuso adborth a gwybodaeth gennych
  • i wella ein gwasanaeth cwsmer a’n cefnogaeth dechnegol
  • i brosesu gwerthiannau (ni chaiff eich gwybodaeth breifat na chyhoeddus ei rannu, ei werthu, ei gyfnewid na’i roi i unrhyw gwmni trydydd parti am unrhyw reswm o gwbl heb eich caniatâd, ac eithrio cyflenwi’r nwyddau neu’r gwasanaeth rydych wedi gofyn i ni amdano)
  • i anfon negeseuon ebost achlysurol yn cynnwys marchnata drwy ebost – gallwch ddiddymu eich tanysgrifiad i unrhyw gyswllt marchnata gennym ni drwy’r ddolen ar waelod yr ebost
  • i weinyddu hyrwyddiad, digwyddiad neu ar gyfer ein cronfa ddata cwsmeriaid

Sut rydyn ni’n diogelu ac amddiffyn eich gwybodaeth bersonol?

Mae gennym amrywiaeth o fesurau diogelwch ar waith i amddiffyn eich gwybodaeth bersonol.

Caiff taliadau cerdyn eu hamgryptio gan ein darparwr taliadau trydydd parti. Ni chaiff unrhyw wybodaeth taliad ei gadw gennym.

Eich caniatâd

Trwy ddefnyddio ein safle rydych yn cytuno i’n Polisi Preifatrwydd a’n Telerau ac Amodau.

Newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd

Os penderfynwn newid neu ddiweddaru ein Polisi Preifatrwydd, byddwn yn gwneud hynny ar y dudalen hon.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein Polisi Preifatrwydd.


Polisi ar ebost digymell

Mae preifatrwydd defnyddwyr y rhyngrwyd yn bwysig iawn i ni a’n cwsmeriaid. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar ein gallu i gynnal ffydd ein cwsmeriaid. I’r perwyl hwn, mae gennym ddau bolisi hollbwysig:

Polisi derbynwyr neges

Cyn y gall cwsmeriaid dderbyn negeseuon, hysbysebion neu hyrwyddiadau drwy ebost, mae’n rhaid i’r cwsmer fod wedi cytuno i dderbyn negeseuon o’r fath, un ai trwy brynu rhywbeth gennym neu trwy optio i mewn i un o’n rhestrau postio. Gall unrhyw dderbyniwr ofyn i gael ei dynnu oddi ar ein rhestr ar unrhyw adeg, a byddwn yn cytuno i’r cais hwnnw. Yn ychwanegol, fe wnawn ymchwilio’n drwyadl i unrhyw honiadau gan dderbynwyr yngl?n â negeseuon digymell.

Polisi yn erbyn hysbysebu ein gwefan trwy ddefnyddio negeseuon ebost digymell

Mynnwn mai dim ond at gwsmeriaid sydd wedi cytuno i dderbyn negeseuon o’r fath yr anfonir unrhyw ebost sy’n hyrwyddo ein busnes neu ei gynhyrchion. Gwaharddwn hysbysebu ein brand a’n gwefan trwy ddefnyddio negeseuon ebost digymell. Os teimlwch eich bod wedi cael negeseuon ebost digymell yn hyrwyddo ein brand neu ein gwefan, ac yr hoffech wneud cwyn, anfonwch ebost atom gan ddefnyddio ein tudalen gyswllt. Byddwn yn archwilio unrhyw honiadau a wneir yngl?n â negeseuon digymell ar unwaith.

Mae eich cyfeiriad ebost yn ddiogel efo ni

  • Wnawn ni byth werthu neu rannu eich cyfeiriadau ebost gyda chwmnïau eraill.
  • Cewch ddiddymu eich tanysgrifiad ar unrhyw adeg.
  • Gofynnwn fod pob neges ebost sy’n cael ei hanfon gennym yn cynnwys modd rhwydd i danysgrifwyr ddilyn dolen i ddiddymu’r tanysgrifiad.
  • Os derbyniwch newyddlen neu ebost a phenderfynu nad ydych yn ei hoffi, cliciwch y ddolen i ddiddymu’r tanysgrifiad ar waelod yr ebost.
  • Os teimlwch eich bod wedi cael ebost digymell ac yr hoffech wneud cwyn, anfonwch ebost atom gan ddefnyddio ein tudalen gyswllt.

Diffiniad o sbam

Ebost digymell sy’n cael ei anfon mewn swmp mawr yw sbam. Mae unrhyw hyrwyddiad, gwybodaeth neu ofyniad a anfonir i berson drwy ebost heb iddynt roi caniatâd o flaen llaw, lle nad oes perthynas eisoes rhwng yr anfonwr a’r derbyniwr, yn sbam


Cwcis

Darparwn wasanaethau ar-lein sydd yn hawdd i’w defnyddio, yn ddefnyddiol ac yn ddibynadwy. Gall y rhain gynnwys gosod symiau bychan o wybodaeth ar eich cyfrifiadur neu ffôn symudol neu declyn arall. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bychain o’r enw cwcis. Ceir dolen sy’n arwain at gyngor cyffredinol am reoli cwcis ar waelod y dudalen hon. Nid oes modd eich adnabod yn bersonol drwy ddefnyddio cwcis.

Isod mae rhestr o’r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon. Gallwch optio allan o gwcis diangen ar unrhyw adeg trwy glicio ar y ddolen hon...

Cookies

Enw: PHPSESSID
Cynnwys nodweddiadol: rhif wedi’i greu ar hap
Daw i ben: wrth i’r defnyddiwr adael y porwr

Enw: style
Cynnwys nodweddiadol: storio dewis y defnyddiwr o ran gweld cynhyrchion fel rhestr neu grid
Daw i ben: 1 flwyddyn

Enw: key
Cynnwys nodweddiadol: rhif wedi’i greu ar hap i gofio’r defnyddiwr ar ei ymweliad nesaf
Daw i ben: 4 wythnos

Enw: bkey
Cynnwys nodweddiadol: rhif wedi’i greu ar hap i gofio cynnwys basged y cwsmer ar gyfer ei ymweliad nesaf
Daw i ben: 4 wythnos

Enw: recent
Cynnwys nodweddiadol: storio cynhyrchion a edrychwyd arnynt yn ddiweddar ar gyfer ymweliad nesaf y cwsmer
Daw i ben: 4 wythnos

Enw: facebookLike
Cynnwys nodweddiadol: defnyddir ar gyfer hyrwyddo cynigion, ac mae’n cofio os yw’r cwsmer wedi “hoffi” y wefan ar Facebook
Daw i ben: 4 wythnos

Enw: allowAllCookies
Cynnwys nodweddiadol: storio dewis y cwsmer o ran ei ddymuniad i ganiatáu holl gwcis ar y wefan hon neu beidio
Daw i ben: 1 flwyddyn

Google Analytics Cookies

Enw: _utma
Cynnwys nodweddiadol: rhif wedi’i greu ar hap
Daw i ben: 2 flynedd

Enw: _utmb
Cynnwys nodweddiadol: rhif wedi’i greu ar hap
Daw i ben: 30 munud

Enw: _utmc
Cynnwys nodweddiadol: rhif wedi’i greu ar hap
Daw i ben: wrth i’r defnyddiwr adael y porwr

Enw: _utmv
Cynnwys nodweddiadol: rhif wedi’i greu ar hap
Daw i ben: 2 flynedd

Enw: _utmz
Cynnwys nodweddiadol: rhif wedi’i greu ar hap a gwybodaeth am sut cyrhaeddwyd y dudalen (e.e. yn uniongyrchol neu trwy ddolen, neu chwiliad organig neu chwiliad taledig)
Daw i ben: 6 mis

Am fanylion pellach am y cwcis a osodir gan Google Analytics, gweler y ddolen isod.

Add-This Cookie

Enw: _atuvc
Cynnwys nodweddiadol: cynnwys rhifyddol (e.e. 8|21) sydd yn eich helpu i rannu cynnwys trwy rwydweithiau cymdeithasol
Daw i ben: 2 flynedd

Gwefannau rhwydweithio cymdeithasol

Gall gwefannau rhwydweithio cymdeithasol osod cwcis ar eich cyfrifiadur. Mae nodau tudalen cymdeithasol yn fodd o gadw dolenni i wefannau sydd o ddiddordeb i chi, a rhannu’r dolenni hynny gyda phobl eraill. Dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd perthnasol yn ofalus i ddarganfod beth sy’n digwydd i unrhyw ddata y mae’r gwasanaethau hyn yn eu casglu pan fyddwch yn eu defnyddio.

Mwy o wybodaeth am gwcis

Ceir mwy o wybodaeth am reoli eich cwcis ar wefan aboutcookies.org