portmeirionONLINE yw siop manwerthu arlein Siopau Portmeirion Cyf a leolir ym mhentref Portmeirion yng Ngogledd Cymru.
Bydd pob archeb a wneir ar portmeirionONLINE yn caekl ei gludo i chi yn syth o bentref Portmeirion.
Manylion Cwmni: Siopau Portmeirion Cyf
Ymgorfforwyd cwmni Siopau Portmeirion Cyf ym 1972. Cyfarwyddwyr y Cwmni yw Sian Llywelyn (Rheoli), Robin Llywelyn, Menna Angharad (Cyfarwyddwraig anweithredol) Euan Cooper-Willis (Cyfarwyddwr anweithredol) a’r Ysgrifennydd Cwmni yw Glyn Jones.
Mae’r cwmni wedi gweithredu unedau manwerthu ym mhentref Portmeirion ers 1972. Mae ganddo hefyd dair siop ar Stryd Fawr Porthmadog (rhif 9, rhif 51 a Coffa). Mae yna uned fanwerthu Portmeirion hefyd o fewn Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.
Mae’r cwmni yn gweithredu polisi dwyieithog sy’n cynnig gwasanaeth Cymraeg neu Saesneg i’w staff, cyflenwyr a chwsmeriaid yn unol â’u dewis.
Lleolir Prif Swyddfa a Warws y Cwmni ym mhentref Portmeirion, LL48 6ER. Rhif ffôn 01766 770774. Ebost siopau@portmeirion-village.com.
Ein Siopau Manwerthu
Portmeirion, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd
Portmeirion, 51, Styd Fawr, Porthmadog
Portmeirion, 9, Stryd Fawr, Porthmadog
Portmeirion, Capel Coffa, Stryd Fawr, Porthmadog
Siop y Llong, Portmeirion, Gwynedd
Y Ddraig Aur, Portmeirion Gwynedd
Pot Jam, Portmeirion, Gwynedd
Papur a Phensal, Portmeirion, Gwynedd
Siop Bach, Portmeirion, Gwynedd
Rhif 6 (Siop y Prisoner), Portmeirion, Gwynedd
Y Warws Llestri, Portmeirion, Gwynedd
Ein Siop Arlein
Mae’r wefan hon yn gweithredu gan fwyaf yn Saesneg oherwydd cyfyngiadau technegol ond byddwn yn fwy na hapus i ddelio gyda unrhyw ymholiadau yn Gymraeg naill ai dros y ffôn neu ar ebost gan fod pawb sy’n ymwneud â’r gwasanaeth arlein yn ddwyieithog.
Nid yw’r siop arlein ond yn cynrhychioli cyfran fechan o’r nwyddau rydan ni’n eu gwerthu drwy’r siopau. Bydd eitemau newydd yn cael eu hychwanegu’n ddyddiol gyda’r nod o gynnig ystod mor eang ag sy’n bosibl o’n nwyddau, felly gobeithio y dychwelwych yn gyson i weld beth fydd ar gael.



























